Moeseg: pecyn cymorth i fusnesau organig cymru

Mae Canolfan Organig Cymru’n rhedeg prosiect tair blynedd o’r enw Gwell Cysylltiadau Busnes Organig, i gefnogi proffidioldeb, cynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol rhagorol yn y sector organig. Un o’r nodau yw helpu I ddatblygu modelau masnachu teg a moesegol. Mae hyn yn golygu helpu pobl i wneud busnes yn foesegol a’u cefnogi i gael bargen deg gan gyflenwyr a chwsmeriaid.

Gofynnodd y Ganolfan i’r Cyngor Moeseg Bwyd greu’r pecyn cymorth hwn. Mae’n cyflwyno busnesau i syniadau allweddol mewn moeseg gan awgrymu fframwaith ar gyfer penderfynu moesegol. Mae’n trafod rhai o’r materion penodol sy’n wynebu’r sector organig ac yn egluro sut i gael gwybod mwy.

[See here for an English version of the toolkit]